Demograffeg ac ystadegau cymdeithasol, dulliau a chyfrifiadura

  • Demograffeg yw’r astudiaeth o boblogaethau a’r newidiadau a’r tueddiadau mewn poblogaeth, gan ddefnyddio adnoddau fel ystadegau genedigaethau, marwolaethau a chlefydau.
  • Ystadegau cymdeithasol, dulliau a chyfrifiadura sy’n cynnwys casglu a dadansoddi data meintiol ac ansoddol y gwyddorau cymdeithasol.

Astudiaethau datblygu, daearyddiaeth ddynol a chynllunio amgylcheddol

  • Astudiaethau datblygu yw cangen amlddisgyblaethol o’r gwyddorau cymdeithasol sy’n mynd i’r afael ag ystod o faterion cymdeithasol ac economaidd sy’n ymwneud â gwledydd datblygol neu incwm isel.
  • Daearyddiaeth ddynol sy’n astudio’r byd, ei bobl, cymunedau a diwylliannau, ac mae’n wahanol i ddaearyddiaeth ffisegol yn bennaf am ei bod yn canolbwyntio ar weithgareddau dynol a’u heffaith – er enghraifft ar newid amgylcheddol.
  • Cynllunio amgylcheddol sy’n archwilio’r prosesau gwneud penderfyniadau ar gyfer rheoli cydberthynas o fewn a rhwng systemau dynol a systemau naturiol, er mwyn rheoli’r prosesau hyn mewn ffordd effeithiol, dryloyw a theg.

Economeg, rheolaeth ac astudiaethau busnes

  • Economeg sy’n ceisio deall y ffordd y mae unigolion yn rhyngweithio yn y strwythur cymdeithasol, i fynd i’r afael â chwestiynau allweddol am greu a chyfnewid nwyddau a gwasanaethau.
  • Astudiaethau rheoli a busnes sy’n archwilio ystod eang o agweddau’n ymwneud â gweithgareddau a rheolaeth fusnes, fel rheolaeth strategol a gweithredol, seicoleg sefydliadol, cysylltiadau cyflogaeth, marchnata, cyfrifyddu, cyllid a logisteg.

Addysg, anthropoleg gymdeithasol, ac ieithyddiaeth

  • Addysg yw un o’r gwyddorau cymdeithasol pwysicaf, sy’n archwilio’r ffordd y mae pobl yn dysgu ac yn datblygu.
  • Anthropoleg gymdeithasol yw’r astudiaeth o’r ffordd y mae cymdeithasau dynol a strwythurau cymdeithasol yn cael eu trefnu a’u deall.
  • Ieithyddiaeth sy’n canolbwyntio ar iaith a’r ffordd y mae pobl yn cyfathrebu trwy synau llafar a geiriau.

Y gyfraith, economeg a hanes cymdeithasol

  • Mae’r Gyfraith yn canolbwyntio ar y rheolau a grëwyd gan lywodraethau a phobl er mwyn sicrhau cymdeithas fwy trefnus.
  • Mae Economeg a hanes cymdeithasol yn edrych ar ddigwyddiadau’r gorffennol er mwyn dysgu o hanes a deall prosesau cymdeithas gyfoes yn well.

Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol

  • Mae Gwleidyddiaeth yn canolbwyntio ar ddemocratiaeth a’r berthynas rhwng pobl a pholisi, ar bob lefel i fyny o’r unigolyn i lefel genedlaethol a rhyngwladol.
  • Cysylltiadau rhyngwladol yw’r astudiaeth o gydberthynas rhwng gwledydd, yn cynnwys rolau sefydliadau eraill.

Seicoleg a chymdeithaseg

  • Mae Seicoleg yn astudio’r meddwl dynol ac yn ceisio deall y ffordd y mae pobl a grwpiau’n profi’r byd trwy emosiynau, syniadau a chyflyrau ymwybodol amrywiol.
  • Mae Cymdeithaseg yn cynnwys grwpiau o bobl, yn hytrach nag unigolion, ac yn ceisio deall y ffordd y mae pobl yn cysylltu â’i gilydd ac yn gweithredu fel cymdeithas neu is-grwpiau cymdeithasol.

Astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg

  • Mae Astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg yn ymwneud â’r hyn y mae gwyddonwyr yn ei wneud, beth yw eu rôl yn ein cymdeithas, hanes a diwylliant gwyddoniaeth, a’r polisïau a’r trafodaethau sy’n llunio ein byd gwyddonol a thechnolegol modern.

Polisi cymdeithasol a gwaith cymdeithasol

  • Mae Polisi cymdeithasol yn bwnc rhyngddisgyblaethol a chymhwysol sy’n ymwneud â dadansoddi ymatebion cymdeithasau i angen cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar agweddau o gymdeithas, yr economi a pholisi sydd yn angenrheidiol ar gyfer bodolaeth ddynol, a’r ffordd y gellir darparu’r rhain.
  • Mae Gwaith cymdeithasol yn canolbwyntio ar newid cymdeithasol, datrys problemau mewn cydberthynas ddynol a grymuso a rhyddhau pobl er mwyn gwella cyfiawnder cymdeithasol.