Mae gwyddonwyr cymdeithasol yn aml eisiau deall y ffordd y mae unigolion yn meddwl, yn teimlo neu’n ymddwyn mewn sefyllfaoedd penodol, neu mewn cydberthynas ag eraill sy’n datblygu dros amser. Maent yn defnyddio cyfweliadau manwl, arsylwadau’r cyfranogwyr a dulliau ansoddol eraill o gasglu data. Gallai ymchwilwyr wylio iard chwarae mewn ysgol er mwyn arsylwi a chofnodi ymddygiad o fwlio, neu ofyn i bobl ifanc yr hyn y maen nhw’n ei ddeall am gael eich bwlio, a sut y maent yn credu ei fod yn effeithio arnyn nhw.

Mae dulliau ansoddol yn wyddonol, ond yn canolbwyntio mwy ar ystyr agweddau gwahanol ar fywydau pobl, ac ar eu cyfrifon o’r ffordd y maent yn deall eu hymddygiad a’u credoau eu hunain a rhai pobl eraill.

Mae astudiaethau achos (lle mae ymchwilwyr yn archwilio nifer fach o enghreifftiau penodol) a naratif (lle mae ymchwilwyr yn astudio straeon ymatebwyr yn fanwl) yn ddwy enghraifft yn unig o ddulliau a ddefnyddir mewn ymchwil ansoddol.

Gall astudiaethau achos helpu ymchwilwyr i archwilio bywyd mewn teuluoedd, diwylliannau a chymunedau gwahanol. Fodd bynnag, er mwyn archwilio i ba raddau y gallwn gyffredinoli’r achosion penodol ar gyfer cymdeithas ehangach, mae angen rhyw fath o ddulliau meintiol yn aml.

Methodolegau ansoddol

Mae rhai o’r methodolegau ymchwil ansoddol mwyaf cyffredin yn cael eu disgrifio yma. Defnyddir y methodolegau hyn yn eang mewn ymchwil a ariennir gan ESRC.

Cyfweliadau lled-strwuthuredig

Mewn cyfweliadau lled-strwythuredig, mae gan yr ymchwilydd craidd bach o gwestiynau neu feysydd y maent yn dymuno eu harchwilio, ond byddant wedyn yn mynd â’u cwestiynau i gyfeiriadau gwahanol, yn dibynnu ar yr atebion y maent yn eu derbyn. Mae hyblygrwydd yn bwysig gyda’r math yma o gyfweliad. Defnyddir y dull hwn wrth chwilio am wybodaeth ddisgrifiadol iawn, ee yr hyn sy’n gwneud athro da.

Cyfweliadau distrwythur

Mae cyfweliadau distrwythur yn benagored ac yn anffurfiol. Mae’r ymchwilydd yn chwilio am ddarlun manwl ac yn ceisio peidio cael unrhyw ragdybiaethau. Defnyddir y math yma o gyfweliad mewn ymchwil naratif yn aml. Yn gyffredinol, mae’r ymchwilydd yn gofyn un cwestiwn ac yna'n gadael y person sy’n cael ei gyfweld i siarad neu ‘ddweud eu hanes'.

Arsylwi

Mae arsylwi’n dibynnu’n helaeth ar sgiliau’r ymchwilydd i ddeall a dehongli’r hyn y maent yn ei weld mewn ffordd ddiduedd. Gellir ei ddefnyddio, er enghraifft, mewn ymchwil addysg i weld faint o amser y mae plant ifanc yn ei dreulio ‘ar dasg’ a beth maent yn ei wneud pan dynnir eu sylw. Gyda’r dull hwn, mae’r ymchwilydd yn arsylwi’r hyn sy’n digwydd ac yn gwneud nodiadau maes naill ai ar y pryd neu’n fuan wedi hynny.

Arolwg holiadur agored

Yn wahanol i holiaduron mewn ymchwil feintiol, sy’n cynnig ystod gyfyngedig o ddewisiadau, mae arolygon agored yn gofyn am farn a disgrifiad mewn ymateb i gwestiynau penagored.  Gellir eu defnyddio i gasglu gwybodaeth a syniadau gan fwy o bobl nag y byddai cyfweliad un i un yn ei ganiatáu.

Cadw log a dyddiadur

Gall ymchwilwyr a chyfranogwyr gadw log neu ddyddiadur fel ffordd o gasglu manylion am fywyd bob dydd. Gofynnir i’r cyfranogwyr gadw cofnodion manwl o ryw agwedd ar eu bywyd, fel gweithgareddau cymdeithasol neu ymarfer corff, er mwyn i’r ymchwilydd allu dadansoddi’r deunydd hwn yn ddiweddarach. Mae ymchwilwyr hefyd yn cadw dyddiaduron yn ystod y cyfnod casglu data ar agweddau o’r ymchwil, fel cyd-destun y cyfweliadau neu’r arsylwadau. Caiff y rhain wedyn eu defnyddio ynghyd â data arall i’w helpu i ehangu eu dealltwriaeth o ganfyddiadau’r ymchwil.